Описание
Adnodd hanfodol ar gyfer CA2 yn bennaf. Mae’n cyflwyno’r agwedd “Cyd-ddibyniaeth organebau” o gwricwlwm Gwyddoniaeth CA2, ac mae wedi ei strwythuro i adlewyrchu’r meysydd yn y cwricwlwm:
- Bodau dynol
- Ymarfer ac iechyd
- Organebau byw yn eu hamgylchedd
- Ffactorau amgylcheddol sy’n effeithio ar yr hyn sy’n tyfu
Mae’r ap wedi ei ddylunio fel un gellir ei ddefnyddio o flaen dosbarth gan athro, neu gan ddisgyblion yn unigol.
Mae’r ap yn cynnwys gwybodaeth, animeiddiadau a gweithgareddau i ddiddori, herio a chymhwyso gwybodaeth y disgyblion.